Annwyl Cadeirydd,

 

YMATEB CYNGOR GWYNEDD:

YMGYNGHORIAD “GWNEUD I’R ECONOMI WEITHIO AR GYFER POBL AR INCWM ISEL”

 

Ymhellach  i’ch cais i’r ymgynghoriad ysgrifenedig ar ‘Gwneud i’r Economi weithio ar gyfer rheiny sydd ag incwm isel’. Mae Cyngor Gwynedd yn gwerthfawrogi’r cyfle i gynnig ei sylwadau a’ch parodrwydd i dderbyn mewnbwn gan ystod o rhanddeiliad.

 

Yng ngoleuni hyn hoffwn gynnig y sylwadau canlynol ar y meysydd isod:

 

1.            ANNOG TWF ECONOMAIDD MWY CYNHWYSOL SYDD O FUDD I BOBL A LLEOEDD YN GYFARTAL AR DRAWS CYMRU:

 

1.1.         Credwn mai’r prif ffactorau sy’n hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi yw swyddi da sy’n talu’n dda, sgiliau, seilwaith a chysylltedd. Mae’n hanfodol creu rhagor o swyddi, a swyddi gwell o ansawdd uchel a hefyd lleihau’r rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cael swyddi.

 

1.2.         Rydym yn falch o weld ffocws Symud Ymlaen Cymru  ar ffyniant economaidd i bawb. Mae cydnabod y rôl hanfodol y mae economi gref a mynediad i gyfleoedd cyflogaeth yn ei chwarae wrth fynd i’r afael ag achosion tlodi a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

 

1.3.         Mae angen sicrhau ein bod yn gwasgaru a lledaenu twf economaidd. Wrth or-ganoli twf a datblygiadau lle bo’r sector breifat yn gryf, mae’r bwlch rhwng ardaloedd yn dwysau. Ceir enghraifft o hyn yng Ngogledd Cymru lle bo bwlch twf yn bodoli rhwng y Gogledd Ddwyrain a’r Gogledd Orllewin. Mae angen sicrhau ffyniant i bawb.

 

1.4.         Mae Cyngor Gwynedd yn cytuno gyda’r amcan, ac yn credu fod dilyn strategaeth a amlinellwyd yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yw’r brif flaenoriaeth i sicrhau twf yn economi’r rhanbarth a chodi GVA yr economi i gyd fynd gydag ardaloedd eraill yng Nghymru.

 


 

1.5.         Anogwn Lywodraeth Cymru, ynghyd a Llywodraeth y DU, i gefnogi gwireddu gweledigaeth y Bwrdd Uchelgais gan ganolbwyntio ymdrechu ar:

 

·                Creu a chynnal swyddi gwerth uchel o fewn sectorau blaenoriaeth megis cynhyrchu ynni, gweithgynhyrchu uwch, y cyfryngau a thechnoleg gwybodaeth a’r maes awyrofod, ynghyd a’u cadwyni cyflenwi.

·                Datblygu ardaloedd o gyfle penodol megis y Parthau Menter, gan gynnwys Parth Menter Eryri, er budd y rhanbarth cyfan.

·                Cyswllt rhwng anghenion sgiliau cyflogwyr a blaenoriaethau darparwyr hyfforddi – fel eu bod yn paratoi pobl ar gyfer gwaith.

 

1.6.         I wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael ym maes datblygu’r economi, mae’n allweddol fod rhaglenni Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill, yn cael eu gwirio a’u hintegreiddio i gyflawni’r un pwrpas.

 

1.7.         Dylid blaenoriaethu buddsoddiadau cyhoeddus a datblygu’r isadeiledd fydd yn sicrhau fod twf yn cael ei ddosbarthu a’i ledaenu, drwy gynlluniau megis trydanu rheilffordd Arfordir y Gogledd, bont newydd ar draws y Fenai, cyfleusterau addysg uwch a phellach a pharhad datblygiad isadeiledd TGCh yn y rhanbarth; ynghyd a datblygiad safleoedd penodol megis Maes Awyr Llanbedr.

 

1.8.         Law yn llaw a chynyddu’r nifer o swyddi gwerth uchel yn rhanbarth Gogledd Cymru, dylid cefnogi’r sectorau sy’n cynnal ein hardaloedd gwledig megis Twristiaeth a bwyd ac amaeth, y sector gofal a’r sector adeiladu, i gynyddu gwerth eu gweithgaredd a’r gyflogaeth maent yn ei gynnig.

 

2.            LLEIHAU CYFRAN Y RHEINY SYDD AR INCWM ISEL:

 

2.1.         Mae cyswllt clir rhwng pobl ar incwm isel a thlodi. Mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn annog cynnydd mewn gwir gyflog, a llenwi’r bwlch sy’n cael ei greu gan doriadau i’r Credyd Cynhwysol. Mae tlodi mewn gwaith yn rhwystr yng Ngwynedd.

 

2.2.         Mae’r Llywodraeth yn defnyddio tlodi incwm cymharol fel ffordd o ddiffinio a mesur tlodi; bod yr aelwydydd hynny sydd ag incwm canolrif sydd yn llai na 60% yn cael eu hystyried yn dlawd.

 

2.3.         Nid yw Cyngor Gwynedd yn teimlo bod y diffiniad materol hwn o dlodi, yn darlunio gwir ystyr tlodi a’i effeithiau ar gymdeithas. Mae rhai pobl yn profi bob elfen o’r gwahanol fathau o dlodi o ddiffyg arian, dim gwaith, tai anaddas, dim mynediad i wasanaethau, diffyg cludiant, dim cyfleoedd na phrofiadau cymdeithasol, diwylliannol na hamddena. Mae diffyg uchelgais hefyd yn fater sydd angen ei ystyried ac ymateb iddo.

 

2.4.         Yn sgil tlodi, daw anallu pobl i chwarae rhan lawn yn y gymdeithas y maen nhw’n perthyn iddo a gwthio carfannau o unigolion i gyrion ein cymdeithas.

 

2.5.         Mae dadansoddiad o ystadegau economaidd - cymdeithasol Gwynedd yn dangos fod tlodi’r Sir yn tarddu o economi wan sy’n arwain at lefelau incwm isel, boed hynny yn dlodi mewn gwaith oherwydd lefelau cyflogi isel yn y Sir, neu ddibyniaeth ar fudd-daliadau oherwydd anallu i weithio neu ddiffyg gwaith.

 

2.6.         Yng Ngwynedd, mae’r cyflog wythnosol gros yn £350, sef y ffigwr isaf yng Nghymru. O fewn Gwynedd, mae’r ffigwr cyflog ar gyfer etholaeth Dwyfor/Meirionnydd yn £342.70, sef yr isaf allan o’r 40 etholaeth yng Nghymru.

 

2.7.         Mae incwm cyfartalog Gwynedd yn £23,988, yn un o’r isaf yng Nghymru. Ar ben hyn, mae’r Cyngor wedi adnabod 19 cymuned/ward yn y Sir lle mae dros 42.4% o gartrefi yn y cymunedau yn derbyn incwm llai na £23,988. Mae’r incwm cyfartalog ar ei waethaf yng nghymuned Marchog (Bangor), lle mae’r incwm blynyddol yn gostwng i £17,159.

 

/parhad …

2.8.         Yng Ngwynedd, mae’r aelwydydd incwm isel yn disgyn i 2 brif grŵp sef:

 

·                Aelwydydd incwm isel oherwydd diffyg gwaith (ac felly yn dibynnu ar fudd-daliadau fel incwm):

-               mae 1.989 o gartrefi di-waith yng Ngwynedd;

-               o’r 1,989 cartref yma, mae 284 yn gartrefi un rhiant.

 

·                Aelwydydd incwm isel oherwydd bod lefel y cyflog yn isel (ac yn ddibynnol ar gredyd treth gwaith i ychwanegu at eu hincwm):

-               mae 1,154 o gartrefi yng Ngwynedd yn derbyn Credyd Treth Gwaith.

 

2.9.         Oherwydd natur ofodol nifer o raglenni trechu tlodi Llywodraeth Cymru megis Cymunedau i Waith, Dechrau’n Deg a Chymunedau’n Gyntaf, ychydig iawn o’r cymunedau a effeithir fwyaf gan dlodi yng Ngwynedd sy’n gymwys neu’n gallu cymryd rhan yn y rhaglenni.

 

2.10.      Dyma yw prif wendid rhaglenni tlodi sy’n seiliedig ar lefydd i Sir wledig ei natur fel Gwynedd. Nid yw’r rhaglenni mawr a’r buddsoddiad ar lefel Cenedlaethol yn eu cyrraedd, sy’n golygu ei bod yn anodd lleihau’r gyfran sydd ag incwm isel i’r Sir.

 

2.11.      Gyda dyfodiad Credyd Cynhwysol, mae symud mewn gwaith (mwy o oriau/cyflog uwch) yn bwysicach nag erioed ar gyfer y rheiny sydd mewn gwaith cyflog isel. Mae angen ysbrydoli pobl a chynnig cymorth iddynt i gynyddu oriau gweithio a chynnig cyfleoedd gyrfa glir iddynt.

 

2.12.      Mae hefyd angen cydnabod pwysigrwydd gofal plant wrth gynorthwyo rhieni i gael swydd ac aros ynddi. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer y rhai sy’n ennill yr ail gyflogwr yr aelwyd.

 

2.13.      Mae Cyngor Gwynedd yn credu bod cynlluniau cyffrous ar y gweill fel rhan o ‘Bid Twf’ yng Ngogledd Cymru sy’n canolbwyntio ar gyd-weithio gyda’r DWP, Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru, Addysg Bellach ac Uwch a’r sector breifat i sefydlu gwasanaeth cyflogaeth gyda chyngor gyrfaol ar gyfer y rhanbarth.

 

2.14.      Mae pwyslais hefyd ar ddatblygu rhaglenni cyflogadwyedd sy’n targedu grwpiau o bobl fregus a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng gwahanol grwpiau.

 

2.15        Mae’n bwysig cofio am rôl y trydydd sector wrth gynllunio rhaglenni cyflogadwyedd sy’n targedu grwpiau o bobl fregus. Rydym yn cydweithio ar lefel lleol a rhanbarthol gyda sefydliadau megis CAB i gyrraedd pobl fregus.

 

3.            CYD-FYND GYDA RHAGLEN GWAITH AC IECHYD LLYWODRAETH PRYDAIN:

 

3.1.         Mae’r berthynas gyda’r rhaglen waith a’r Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Prydain yn allweddol. Rydym yn awyddus i weld un cynllun mawr integredig, yn hytrach na degau o gynlluniau bach sy’n ddryslyd i unigolion. Yn y gorffennol, mae’n deg dweud bod beirniadaeth wedi bod o ran plethiad nifer o raglenni DWP a rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru.

 

3.2.         Credwn fod tystiolaeth gadarn mewn llunio strategaeth integredig ar gyfer ymyraethau yn y farchnad lafur sy’n ystyried taclo diweithdra tymor hir.


 

 

Gobeithiwn yn fawr y bydd y sylwadau uchod o ddefnydd i chi ac y bydd ein mewnbwn yn derbyn ystyriaeth lawn yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

Rydym yn awyddus i barhau i gyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn barod i fod yn bartner cadarnhaol a rhagweithiol er budd trigolion Gwynedd.

 

Yn gywir iawn,

 

ITJ llofnod

Iwan T. Jones

Cyfarwyddwr Corfforaethol